Efa Gruffudd Jones
Mae ’na bryder y bydd penderfyniad prif weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Efa Gruffudd Jones, i dderbyn MBE yn achosi rhwyg o fewn y mudiad. Dyna farn un o gyn brif weithredwyr y mudiad ieuenctid.

Roedd Cyril Hughes yn gyn gyfarwyddwr yr Urdd adeg arwisgo’r Tywysog Charles yng Nghaernarfon ym 1969.

Dywedodd bod penderfyniad Cyngor Cenedlaethol yr Urdd i dderbyn gwahoddiad i’r seremoni honno wedi creu “cryn dipyn o gynnwrf a gwrthryfela.”

Ychwanegodd bod pedwar aelod o staff wedi cynnig ymddiswyddo ar y pryd hefyd. Fe wnaeth aelodau’r cyngor newid eu meddwl a phleidleisio eto i wrthod y gwahoddiad yn dilyn yr helynt.

Roedd Cyril Hughes yn siarad gyda’r BBC pan ddywedodd bod y mudiad yn ddibynnol ar ewyllys da pobl a gwirfoddolwyr a’i fod yn gobeithio na fyddai penderfyniad Efa Gruffudd Jones i dderbyn yr MBE yn effeithio ar y berthynas honno.

Wrth siarad ar y Post Cyntaf y bore ma, dywedodd Cyril Hughes: “Dwi’n gobeithio na fyddai unrhyw weithred gan aelod o’r mudiad yn troi’r cloc yn ôl i 1969. Mae’r Urdd yn bwysicach na phob un ohonon ni sydd yn, neu wedi, gweithio i’r mudiad.

“Ar ôl ’69, fe wnaeth yr Urdd godi llais am nifer o achosion – roedden ni’n amlwg iawn yn y frwydr i sefydlu S4C ac rwy’n credu bod y mudiad yn fwyaf llewyrchus yn y cyfnod hwnnw. Ond os yw prif swyddog yr Urdd yn derbyn anrhydeddau gan y Frenhines, fe all wneud i bobl feddwl nad oes ganddyn nhw ysbryd o Gymreictod.”

Ychwanegodd y byddai’n gwrthod MBE petai’n cael cynnig gan ychwanegu:  “Os oes rhaid cael anrhydeddau o gwbl, yna dylai Cymru gael ei system ei hun.”