Karen Owen
Mae’r bardd a’r newyddiadurwr Karen Owen wedi lambastio’r dosbarth canol Cymraeg ar dudalen flaen Y Cymro heddiw.
Mewn erthygl dan y pennawd ‘Ai snobyddiaeth sy’n lladd yr iaith?’ mae hi’n honni bod dosbarth canol Cymraeg wedi cymryd drosodd mewn trefi yng Ngwynedd a Cheredigion a “gwneud i rai deimlo fel baw isa’r domen Gymraeg”.
Meddai: “Os am enghreifftiau o’r llefydd yng Nghymru lle mae mewnfudo’r agwedd ddosbarth canol wedi colbio hyder y brodorion ac wedi newid personoliaeth ardal, does dim ond angen edrych ddim pellach na threfi Caernarfon, Caerfyrddin ac Aberystwyth.”
Aiff yn ei blaen i ddweud nad ydy “pobl gynhenid yr ardaloedd hyn” yn cael cyfle i leisio barn “wrth i don ar ôl ton o ffrindiau coleg lanio a chreu eu cymunedau-gwneud eu hunain ar draul yr hyn a fu”.
Gig Edward H. a swydd efo’r Comisiynydd
Yn ôl Karen Owen mae canfyddiad bod y dosbarth canol Cymraeg wedi creu meini prawf ar gyfer Cymreictod go-iawn, sy’n cynnwys:
- Mynychu gig olaf Edward H yn Steddfod Dinbych
- Bwcio lle i garafán yn Steddfod Sir Gaerfyrddin eleni
- Sicrhau swydd actio i’r mab ar Rownd a Rownd
- Swydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg i’r ferch.