Mae Proffesor wedi ei wahardd rhag nyrsio wedi iddo ymddwyn mewn modd rhywiol amhriodol tuag at gwraig weddw 83 oed o Birmingham.
Fe glywodd Panel Disgyblu Cyngor Bydwragedd a Nyrsio bod George Castledine – sy’n arddel y teitl ‘Syr’ ers iddo gael sêl bendith Brenhines Lloegr am ei gyfraniad i ofal iechyd – wedi dweud wrth y bensiynwraig 83 oed bod yn rhaid iddo fynd i’r gampfa neu fel arall ni fyddai “yn gallu caru”.
Hefyd roedd Syr George yn cyfadde’ iddo roi blodau i’r wraig a’i thywys ar drip i Gymru.
Roedd wedi galw’r wraig weddw yn “my little tinklerbell” a daeth y Panel i’r casgliad bod cymhelliad ariannol tu ôl i weithredoedd Syr George.