Myrddin Edwards
Aelod o gôr Côrdydd o Gaerdydd yw ‘Spad’ – ‘special advisor’ – newydd Dirprwy Brif Weinidog Prydain.

Ar hyn o bryd mae Myrddin Edwards, sy’n wreiddiol o Borthmadog, yn Bennaeth Cyfathrebu’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Ond ymhen mis mi fydd yn gadael am Lundain i weithio i Nick Clegg a’r glymblaid Geidwadol/Lib Dem sy’n llywodraethu Ynysoedd Prydain.

“Bydd y profiad o gael gweithio yn San Steffan, yng nghalon llywodraeth, yn un cyffrous dros ben,” meddai’r cyn-ddisgybl o Ysgol Eifionydd wrth golwg360 dros e-bost tra ar wyliau sgïo.

Her newydd

Gydag etholiad cyffredinol Prydeinig 2015 yn addo bod yn un anodd i’r Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r Cymro’n sicr o wynebu her a hanner yn ei swydd newydd.

“Mae gwleidyddiaeth Cymru a gwaith y Cynulliad yn agos at fy nghalon ond mae’n rhaid, bob hyn a hyn, edrych am her newydd,” meddai.

“Dw i’n edrych ymlaen i helpu Nick Clegg a’r Democratiaid Rhyddfrydol barhau i greu economi gryfach a chymdeithas decach.”