Mae un person wedi marw wrth i ddwsinau o danau gwyllt losgi yn ne Awstralia.
Dywedodd awdurdodau’r wlad fod 68 tân yn llosgi yn nhalaith Victoria – 12 ohonyn nhw wedi eu cynnau yn fwriadol – ac 16 yn Ne Awstralia.
Dywedodd Heddlu Victoria fod un person wedi marw yn Roses Gap yn ardal y Grampians, sydd i’r gogledd orllewin o Melbourne.
Mae’r tymheredd wedi bod yn uwch na 40C yn ystod y dyddiau diwethaf ac mae gwyntoedd yn achosi i’r tanau gwyllt ledu.
Mae’r gwasanaethu brys yn cynghori trigolion i adael eu cartrefi, ond mae nifer yn gwrthod gwneud hynny er mwyn gwarchod eu heiddo.
Gohirio’r tennis
Fe wnaeth swyddogion tennis ohirio’r chwarae ym Mhencampwriaeth Agored Awstralia ddoe, wedi i chwaraewr lewygu oherwydd y gwres llethol.
Y cefndir
Cafodd 173 o bobol eu lladd oherwydd tanau yn Victoria yn 2009, gyda dros 2,000 o dai yn cael eu dinistrio.