Y crwban mor
Mae crwban môr prin o Fecsico wedi cael ei ddarganfod yn farw ar draeth yng Nghaerfyrddin.

Cafodd y crwban Kemps Ridley ei ddarganfod ar draeth Cefn Sidan gan berson yn mynd a’u ci am dro nos Fawrth.

Maen nhw’n grwbanod prin iawn sydd fel arfer ddim ond yn cael eu gweld ar draethau ym Mecsico a Tecsas.

Mae Dr Peter Richards o Gymdeithas Cadwraeth y Môr yn credu fod y crwban wedi cael ei wthio gan gerrynt cryf ac yna wedi colli ei ffordd.

“Os yw tymheredd y dwr yn mynd o dan 10C, mi fydd y crwban yn marw gan nad ydi o’n gallu ymdopi hefo’r tymheredd oer,” meddai.

Mae pum maeth o grwban gwyrdd wedi cael eu darganfod ar draethau yng Nghymru ac Iwerddon.

Mae Cymdeithas Cadwraeth y Môr yn gofyn i bobol fod yn wyliadwrus o greaduriaid y môr eraill, a’u peidio rhoi nhw nôl yn y môr.