Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni fod y Llywodraeth wedi methu’r cyntaf o chwe phrawf a osodwyd i weld a oedden nhw o ddifri dros hybu’r Gymraeg yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad.
Yr haf diwethaf, fe ofynnodd Cymdeithas yr Iaith i’r Llywodraeth weithredu ar 6 o ofynion er mwyn dangos eu bod nhw o ddifrif am sicrhau lle’r Gymraeg yng Nghymru erbyn Chwefror 1.
Mi fydd cyfarfod yn cael ei gynnal gan Gyngor Cenedlaethol y mudiad yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, i benderfynu a yw’r llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol neu a oes angen cychwyn ymgyrch i roi pwysau gweithredol arni.
Addysg
Ond dywed llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg fod y llywodraeth eisoes wedi methu’r prawf cyntaf: “Galwodd Cymdeithas yr Iaith ar y Llywodraeth i chwyldroi’r drefn addysg i sicrhau fod pob disgybl yn datblygu’r sgil i gyfathrebu a gweithio’n Gymraeg ac fe roddon ni’r cyfle ymarferol i gyflawni hyn trwy gyfrwng yr adolygiad cwricwlwm cyfredol,” meddai Ffred Ffransis.
“Ond yr ydym wedi derbyn llythyr gan y gweinidog Huw Lewis i’n hysbysu na fydd y llywodraeth yn edrych ar yr angen i chwyldroi ‘Cymraeg Ail Iaith’ yn y rhan gyntaf o’r adolygiad gan ei fod ‘yn awyddus i dreulio amser’ yn ystyried hyn.
“O ganlyniad, ni chaiff y mater ystyriaeth ddifrifol am flwyddyn arall tan Gam 2 Adolygiad y Cwricwlwm.
“Wrth geisio hybu llythrennedd a sgiliau cyfathrebu, mae’n warthus nad yw’r llywodraeth yn sicrhau bod mwyafrif ein pobl ifainc yn dod yn llythrennog ac yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg.”
‘Ddim yn deal natur brys y sefyllfa’
Ychwanegodd Robin Farrar: “Dyma’r cadarnhad cyntaf nad yw’r Llywodraeth am roi blaenoriaeth i dwf y Gymraeg.
“Nid Cymdeithas yr Iaith yn unig sydd wedi galw am hyn – mae’r gefnogaeth i’r alwad yma yn cynnwys adroddiad yr Athro Sioned Davies i’r Llywodraeth, ‘Un iaith i bawb’, sydd hefyd yn galw ar y Llywodraeth i drin y mater ar frys.
“Mae’n ymddangos bod y Llywodraeth yn oedi o hyd, a heb ddeall natur brys sefyllfa’r Gymraeg.”