Nida Naseer
Mae Heddlu Gwent yn chwilio afonydd a nentydd wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i ferch o Gasnewydd sydd wedi bod ar goll ers diwedd mis Rhagfyr.

Fe fu pedwar swyddog heddlu yn chwilio am Nida Naseer yn agos i gampws Coleg Gwent ar Ffordd Nash, lle mae hi’n fyfyrwraig.

Mae disgwyl i’r heddlu chwilio o gwmpas yr afon yn Rodney Parade a ger pont Stryd George hefyd.

Fe ddiflannodd y fyfyrwraig 18 oed ar ôl mynd a’r sbwriel allan o’i chartref yn Stryd Linton yng Nghasnewydd ar 28 Rhagfyr.

Mae adroddiadau yn dweud nad oedd y ferch yn gwisgo esgidiau pan aeth hi ar goll. Nid oedd ganddi ei ffon symudol, arian na’i chot hefo hi chwaith.

Mae teulu Nida Naseer wedi apelio ar Nida, sy’n cael ei disgrifio fel merch ddistaw, i ddychwelyd i’w chartref.

Mae Heddlu Gwent wedi dweud eu bod nhw’n dal i drin yr achos fel person ar goll.