Mae undeb Unsain wedi dweud y bydden nhw’n cynnal balot ynglyn a streic os yw Cyngor Caerdydd yn bwrw ymlaen hefo cynlluniau i leihau oriau gweithwyr o 37 i 36 awr yr wythnos.

Mae’r cyngor yn honni y bydd hyn yn arbed £4.4 miliwn y flwyddyn.

Ond mae Unsain yn dweud fod eu haelodau wedi cyrraedd pen eu tennyn, ar ôl gweld eu cyflogau yn aros yn eu hunfan am bedair blynedd.

Gwneud i’n haelodau dalu’

Dywedodd Linda Webb-Thornton, ysgrifennydd cangen Caerdydd Unsain:

“Mae colli awr o waith yr wythnos yn cyfateb i saith diwrnod y flwyddyn ac os fydd y cyngor yn cymeradwyo’r penderfyniad mi fyddwn ni’n gweithredu yn erbyn hynny.

“Mae ein haelodau wedi gorfod gweld eu cyflogau’n aros yn eu hunfan am bedair blynedd yn barod, sydd mewn gwirionedd yn ostyngiad cyflog o 18%.

“Mae’r cyngor wedi cytuno i beidio â chodi treth gyngor y flwyddyn ddiwethaf, ond rŵan maen nhw’n gwneud i’n haelodau ni dalu.

“Yn syml, rydyn ni wedi cael digon.”