Mae rhieni cefnogwr tîm pêl-droed Dinas Abertawe wedi siarad am eu colled ar ôl i’w mab farw wrth wylio ei hoff dîm ar y teledu.
Roedd Scott Bryant, 22, o San Tomos, Abertawe adre’n gwylio’r Elyrch yn chwarae yn erbyn Manchester United ddydd Sadwrn pan fu farw’n sydyn.
Roedd yn adnabyddus i gefnogwyr y clwb ac wedi gwylio Abertawe’n codi o’r Ail Adran i’r Uwch Gynghrair.
Mae ei rieni, Julie Walters a Stephen Bryant, a’i chwaer Laura Owen, wedi talu teyrnged iddo.
Meddai ei deulu wrth y South Wales Evening Post: “Rydyn ni mewn darnau, dydyn ni heb allu dod dros y peth a fyddwn ni byth yn gallu.”
“Roedd Scott yn byw am ei bêl-droed, dyna oedd ei fywyd.
“Roedd wedi bod yn sâl ers dydd Mercher ac roedden ni’n meddwl ei fod wedi cael norofirws. Roedd yn gwylio’r gêm yn ei ystafell wely. Roedd ar ei wely ac roedd y pêl-droed ar y teledu.”
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru nad yw ei farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus. Bydd post mortem yn cael ei gynnal i geisio darganfod achos ei farwolaeth.