George North
Mae un o sêr mwya’ rygbi wedi crefu ar weinyddwyr y gêm yng Nghymru i roi diwedd ar eu cweryla.
Yn ôl yr asgellwr, George North, fe ddylai’r rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru allu dod o hyd i ateb.
“O safbwynt chwaraewr, mae’n drist eu bod nhw wedi gadael iddi ddod i hyn,” meddai mewn cyfweliad ym mhapur y Guardian.
“Y peth mwya’ trist o’n safbwynt ni yw nad oedden nhw’n gallu sortio pethau allan ynghynt.”
Gadael
North, sydd bellach yn chwarae i Northampton yn Lloegr, yw un o’r sêr sydd wedi gorfod gadael Cymru oherwydd methiant y gweinyddwyr i gael trefn ariannol ar y gêm yma.
Ac wrth obeithio y bydd ateb yn dod, mae’n amheus a fydd hynny’n digwydd mewn pryd.
“Mae’n drist nad ydyn nhw’n gallu datrys y peth,” meddai, “a chystal criw o chwaraewyr gynnon ni. Mi ddylen ni fod yn gallu sortio rhywbeth er lles y gêm.”