Mae Nofio Cymru wedi cyhoeddi mai Pwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe fydd cartref ei ganolfan newydd – Canolfan Perfformiad Cenedlaethol Nofio Cymru.
Bydd creu canolfan ar gyfer nofio elitaidd a pherfformiad yng Nghymru yn cynnwys nofio’r anabl ac mae’r hyfforddwr enwog, Billy Pye, wedi ymuno â’r tîm hyfforddi.
Mae’r ganolfan yn cael ei ariannu gan Nofio Prydain a Nofio Cymru yn ogystal â chefnogaeth sylweddol gan Chwaraeon Cymru.
Meddai Chwaraeon Cymru eu bod nhw erbyn hyn yn buddsoddi tua £900,000 y flwyddyn mewn nofio ar lawr gwlad a nofio elitaidd yng Nghymru.
Yn ogystal â’r sgwadiau abl ac anabl elitaidd, bydd Canolfan Perfformiad Cenedlaethol Nofio Cymru yn gartref hefyd i Nofio Prifysgol Abertawe a Gweithgareddau Dŵr Dinas Abertawe.
‘Datblygu talent’
Meddai Maryn Woodroffe, Cyfarwyddwr Perfformiad Cenedlaethol Nofio Cymru: “Rwy’n credu y bydd hyn yn cynnig rhaglen well i nofio elitaidd a pherfformiad yng Nghymru.
“Gallwn fuddsoddi yn uniongyrchol yn ein strwythur ein hunain, gan roi mwy o hyblygrwydd i ni, a chyfleoedd i ddatblygu rhagor o dalent nofio Cymru.
“Rydyn ni’n gobeithio ehangu’r niferoedd sydd gennym ni ar hyn o bryd a nawr mae gennym sefydlogrwydd gyda’r ganolfan, i’n helpu i symud ymlaen.”
‘Cyfle i adeiladu ar enw da Abertawe’
Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell:
“Roedden ni’n gwybod yn iawn fod gan Gymru rôl fawr i’w chwarae mewn nofio elitaidd. Drwy ddod â’r holl bartneriaid at ei gilydd o dan gynllun clir, bydd manteision sylweddol i’n nofwyr ni ein hunain ac i’r rhai sy’n dewis Cymru fel eu lleoliad hyfforddi.
“Dyma gyfle i adeiladu ar enw da Abertawe fel canolfan ar gyfer rhagoriaeth ac ennill medalau, fel yr ydym wedi gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”