Golwg360 sy’n cadw llygad ar holl glecs y ffenestr drosglwyddo ymysg clybiau Cymru a chwaraewyr Cymreig, ynghyd â newyddion am drosglwyddiadau sy’n cael eu cadarnhau.

Clecs

Fydd y cefnwr chwith Fabio da Silva ddim yn ymuno â Chaerdydd ar fenthyg o Man United wedi’r cwbl, yn ôl asiant y chwaraewr (WalesOnline)

Un enw sy’n debygol o adael Caerdydd yn fuan yw Nicky Maynard, gyda’r ymosodwr yn agos i symud i Wigan yn y Bencampwriaeth (clubcall.com)

Mae’n ymddangos nad yw arwyddo dau chwaraewr canol cae yn ddigon i Ole Gunnar Solskjaer, gyda rheolwr Caerdydd yn ystyried gwneud cynnig o £5m am Ravel Morrison o West Ham (Guardian)

Mae gan Abertawe tan 31 Ionawr i alw Ki Sung-Yeung yn ôl o’i gyfnod ar fenthyg yn Sunderland – ond maen nhw’n annhebygol o wneud hynny, gyda’r chwaraewr canol cae ddim yng nghynlluniau Michael Laudrup (Sunderland Echo)

Mae Brighton a Bolton yn dal i gystadlu i geisio denu ymosodwr Caerdydd Joe Mason ar fenthyg am weddill y tymor (hereisthecity.com)

Ac mae’n ymddangos fod timau o’r Bencampwriaeth yn dechrau gyda ‘B’ sy’n chwilio am ymosodwr sbâr yng Nghymru’n thema heddiw – gyda Barnsley ar ôl Leroy Lita o Abertawe (Sheffield Telegraph)

Ymosodwr arall sy’n denu sylw yw Luke Moore, gynt o Abertawe, gyda nifer o glybiau yn Lloegr ar ei ôl chwe mis yn unig wedi iddo arwyddo i Elazigspor. Mae’r clwb o Dwrci mewn trafferthion ariannol ac yn fodlon rhyddhau Moore am ddim (Sky Sports)

Bydd disgwyl i chwaraewyr newydd Caerfyrddin Ceri Morgan fynd yn syth i mewn i’r tîm ar gyfer eu gêm yn erbyn TNS heno, gyda’r clwb yn wynebu argyfwng anafiadau (welsh-premier.com)

Y ffenestr hyd yn hyn

Ceri Morgan (Cambrian & Clydach i Gaerfyrddin)

Jay Colbeck (Wrecsam i Fangor) ar fenthyg

Jamie Tolley (dim clwb i Fae Colwyn)

Mats Moller Daehli (Molde i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Kieron Freeman (Notts County i Derby) ar fenthyg

Daniel Collins (Marconi Stallions i Bala) am ddim

Rene Howe (dim clwb i Casnewydd)

Filip Kiss (Caerdydd i Ross County) ar fenthyg

Magnus Wolff Eikrem (Heerenveen i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Elliot Hewitt (Ipswich i Gillingham) ar fenthyg

Alan Tate (Abertawe i Aberdeen) ar fenthyg

Rudy Gestede (Caerdydd i Blackburn) heb gyhoeddi ffi

Daniel Alfei (Abertawe i Portsmouth) ar fenthyg

Luke Holden (dim clwb i Gap Cei Connah)

Ryan Edwards (Gap Cei Connah i TNS)

Mark Smyth (Gap Cei Connah i Prestatyn)

Gary Roberts (dim clwb i Gap Cei Connah)

Sean Thornton (dim clwb i Bala)

Andy Jones (Y Drenewydd i Airbus)

Michael Burns (dim clwb i Gap Cei Connah)

Russell Courtney (Nantwich Town i Gap Cei Connah)

Gerwyn Jones (Caernarfon i Bangor)

Keyon Reffel (Afan Lido i Gaerfyrddin)

Carlos Roca (dim clwb i Rhyl)