Cristiano Ronaldo
Cristiano Ronaldo gafodd ei enwi’n bêl-droediwr gorau’r byd ar gyfer 2013, gan gipio’r Ballon d’or yn y seremoni yn Zurich neithiwr.
Llwyddodd Ronaldo i gipio’r wobr oddi ar Lionel Messi wedi i’r Archentwr ei hennill hi bedair gwaith yn olynol, gyda Messi’n dod yn ail a’r Ffrancwr Franck Ribery’n drydydd.
Jupp Heynckes gafodd wobr hyfforddwr y flwyddyn am ennill tri thlws gyda Bayern Munich, gan gynnwys y Bundesliga a Chynghrair y Pencampwyr, gyda Jurgen Klopp o Borrusia Dortmund yn ail, ac Alex Ferguson yn drydydd.
Enillodd Nadine Angerer o’r Almaen bêl-droedwraig y flwyddyn, gan drechu Marta o Frasil ac Abby Wambach o’r UDA, gyda hyfforddwraig yr Almaen Silvia Neid hefyd yn cipio’r brif wobr.
Ac fe aeth gwobr Puskas am gôl orau’r flwyddyn i ymosodwr Sweden Zlatan Ibrahimovic, am ergyd gampus dros ei ben o 40 llathen mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr.
Beth am Bale?
Ond sut wnaeth Gareth Bale? Fe gyrhaeddodd y Cymro’r rhestr fer o 23 chwaraewr ar gyfer Ballon d’Or, gyda’r enillwyr yn cael eu dewis trwy bleidlais o reolwyr a chapteiniaid rhyngwladol a newyddiadurwr o bob gwlad.
Yn anffodus nid oedd blwyddyn ddisglair Bale yn ddigon iddo gyrraedd y tri uchaf – gan ddenu pleidlais gan ddim ond 25 o’r 541 o etholwyr, oedd yn dewis eu tri uchaf.
Dim syndod wrth gwrs, cafodd ddewis cyntaf gan reolwr Cymru Chris Coleman a chapten Cymru Ashley Williams.
Fe’i enwyd fel chwaraewr gorau’r byd gan ddau o Seland Newydd hefyd, eu hyfforddwr Ricky Herbert a’u capten Winston Reid, amddiffynnwr West Ham.
Yn ogystal, cafodd ddewis cyntaf gan hyfforddwyr Laos, Kokichi Kimura, a hyfforddwr Malawi John Kaputa.
Roedd enwau adnabyddus ac anghyfarwydd wedi’i enwi’n ail hefyd, gan gynnwys Cristiano Ronaldo’i hun, hyfforddwr yr UDA Jurgen Klinsmann, a chapteiniaid Malawi a Madagascar.
Cafodd Bale bleidlais o’r Weriniaeth hefyd, gyda hyfforddwr y Gwyddelod Martin O’Neill a’u capten Robbie Keane yn rhoi’u trydydd pleidlais iddo.
A thrydydd yn unig y cafodd Bale gan gynrychiolydd cyfryngau Cymru, Paul Abbandonato o’r Western Mail!
Chafodd Bale ddim ei enwi yn nhîm y flwyddyn chwaith – gyda’r un chwaraewr o Uwch Gynghrair Lloegr yn llwyddo i gael eu dewis yn yr 11.
Tîm y flwyddyn: Manuel Neuer, Dani Alves, Sergio Ramos, Thiago Silva, Phillip Lahm, Xavi, Iniesta, Franck Ribery, Lionel Messi, Cristiano Ronaldo, Zlatan Ibrahimovic.