Leigh Halfpenny
Mae cefnwr Caerdydd a Chymru wedi ennill gwobr arall neithiwr.
Leigh Halfpenny oedd chwaraewr y gyfres ar daith y Llewod i Awstralia dros yr haf a nawr mae wedi derbyn Chwaraewyr y Flwyddyn Clwb Awduron Rygbi’r Undeb 2013.
Fe wnaeth Leigh Halfpenny gasglu Gwobr Pat Marshall mewn digwyddiad yn Llundain neithiwr.
Mae cyn enillwyr y tlws yn cynnwys Martin Johnson, Jonny Wilkinson, Sam Warburton, Jonah Lomu a Lawrence Dallaglio.
Dywedodd cadeirydd y clwb, Adam Hathaway: “Leigh oedd enillydd amlwg ein pleidlais a derbynnydd teilwng o’r wobr, nid yn unig am ei berfformiadau dros y Llewod ond hefyd ei berfformiadau yn y Chwe Gwlad yn gynharach yn y flwyddyn.”
Mae Leigh Halfpenny hefyd ar restr fer Chwaraewr y Flwyddyn y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol a chafodd ei enwi’n Chwaraewr y Bencampwriaeth ar ôl helpu Cymru i gipio teitl y Chwe Gwlad ym mis Mawrth.
Mae hefyd wedi ennill Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru a daeth yn ail i bencampwr Wimbledon Andy Murray yng ngwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC.