Mae Cymru wedi cyhoeddi’u carfan o 31 chwaraewr ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dan-20 heddiw, gyda chanolwr y Scarlets Steffan Hughes wedi’i enwi’n gapten.
Amhrofiadol yw’r garfan ar y cyfan, gyda dim ond wyth o’r chwaraewyr wedi cynrychioli’u gwlad ar y lefel yma hyd yn hyn – ac un arall, Dafydd Howells, wedi ennill ei gapiau cyntaf dros dîm cyntaf Cymru ar y daith i Siapan yn yr haf.
Mae pedwar o’r rheiny sydd yn rhan o’r garfan unwaith eto yn y rheng flaen, gan gynnwys y props Nicky Smith a Nicky Thomas, a’r bachwyr Ethan Lewis ac Elliott Dee.
Mae gan Steffan Hughes, y canolwr Harri Evans, yr asgellwr Ashton Hewitt a’r blaenasgellwr James Benjamin hefyd wedi ennill capiau ar y lefel hwn.
Bydd y tîm dan-20 yn chwarae’u gemau cartref ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn unwaith eto’r tymor hwn, gan gynnwys herio’r Eidal, Ffrainc a’r Alban yno.
Llwyddodd y tîm dan-20 i ddod yn ail ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd cyn mynd ymlaen i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaethau Ieuenctid y Byd yn Ffrainc.
Wrth gyhoeddi’r garfan, dywedodd yr hyfforddwr Byron Hayward y byddai hyn yn gyfle i ddarganfod mwy am rai o sêr y dyfodol.
“Rydyn ni’n dechrau o’r dechrau mewn ffordd ond rydyn ni gyd yn edrych ymlaen at y sialens,” meddai Hayward. “Mae’n hanfodol ein bod ni’n defnyddio’r Chwe Gwlad i ddatblygu dyfnder yn y garfan wrth i ni baratoi i deithio i Seland Newydd ar gyfer Pencampwriaethau Ieuenctid y Byd.
“Mae’n rhaid i ni fod yn ddewr gyda’n polisi o ddewis chwaraewyr a rhoi profiad o rygbi rhyngwladol i bob un ohonynt. Mae’n gyfle i ddysgu i ryw raddau – nid yn unig am allu’r chwaraewyr ar y cae ond oddi arni hefyd.
“Rydyn ni wedi cael cefnogaeth wych bob tro yr ydym ni wedi chwarae yn Eirias, mae’r dorf yn rhoi hwb mawr i ni a gallwn ni ddim disgwyl nes dychwelyd yno.”
Carfan dan-20 Cymru
Blaenwyr: Nicky Smith, Nicky Thomas (Gweilch), Leon Crump, Callum Lewis (Gleision), Benjamin Leung (Scarlets), Ethan Lewis (Gleision), Elliot Dee (Dreigiau), Scott Otten (Abertawe), James Sheekey (Gleision), Shaun O’Rourke (Gweilch), Joshua Helps (Scarlets), Joe Davies (Dreigiau), Will Boyde (Caerfyrddin), Rob Dudley-Jones (Abertawe), Scott Matthews, Ollie Griffiths, James Benjamin (Dreigiau)
Olwyr:
Tom Williams (Gleision), Luc Jones (Dreigiau), Connor Lloyd (Scarlets), Luke Price (Gweilch), Ethan Davies (Dreigiau), Steffan Hughes (Scarlets), Garyn Smith (Gleision), Harri Evans (RGC 1404), Aled Summerhill (Gleision), Joshua Adams (Scarlets), Dafydd Howells (Gweilch), Ashton Hewitt (Dreigiau), Steffan Evans (Scarlets), Afon Bagshaw (RGC 1404)