Ole Gunnar Solskjaer
Mae Ole Gunnar Solskjaer yn gobeithio ychwanegu o leiaf dau chwaraewr newydd arall i garfan Caerdydd y mis hwn.

Mae’r rheolwr 40 mlwydd oed eisoes wedi bod yn weithgar gan ddod a’r chwaraewyr canol cae Magnus Wolff Eikrem o Heerenveen a Mats Moller Daehli o Molde i Gaerdydd.

Mae’r Adar Gleision hefyd wedi bod mewn cysylltiad ag ymosodwr Hannover, Mame Biram Diouf.

Mae’r tri chwaraewr yn hysbys i Solskjaer ers ei amser yn hyfforddi’n Old Trafford ac mae’n debyg ei fod hefyd yn edrych am arwyddo dau chwaraewr arall o Manchester United, Wilfried Zaha a Fabio, ar fenthyg.

Ond dywedodd Ole Gunnar Solskjaer nad oedd yn bwriadu creu tîm tebyg i Manchester United yn ne Cymru.

“Na, rwy’n creu un newydd yng Nghaerdydd,”  meddai. “Mae angen i ni gael ein hunaniaeth ein hunain.”

Mae Caerdydd nawr ymysg y tri isaf yn yr Uwch Gynghrair wedi iddyn nhw golli 2-0 yn erbyn West Ham ddydd Sadwrn.