George North
Bu’r Cymry wrthi’n gwledda ar geisiau y penwythnos yma yn Ewrop, gydag amryw ohonyn nhw’n sgorio i’w timau wrth i’w grwpiau Ewropeaidd ymlwybro tua’u terfyn.

George North a arweiniodd y ffordd, gan sgorio cais unigol campus a chreu un arall i Northampton yn erbyn y Gweilch yng Nghwpan Heineken brynhawn ddoe.

Cafodd y bêl ei fwydo iddo ar yr asgell chwith ar ôl i’r Gweilch ei cholli, cyn i North wrthymosod yn ddwfn o fewn hanner ei hun a charlamu hyd y cae i dirio.

Roedd yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth o 27-19 i Northampton erbyn y chwib olaf – a North yn cael ei enwi’n seren y gêm am ei berfformiad.

Llwyddodd yr alltud Mike Phillips i dirio yn erbyn y Cymry hefyd, y tro hwn yn erbyn ei gyn-glwb y Scarlets, gan wthio drosodd i sgorio’r cais agoriadol i Racing Metro ar ôl wyth munud.

Ond ofer oedd ei ymdrechion yntau, a Dan Lydiate gydag ef, wrth i’r Scarlets sicrhau buddugoliaeth gofiadwy allan yn Ffrainc diolch i gais gwych Kristian Phillips.

Colli gwnaeth James Hook a Luke Charteris gyda’u Ffrancwyr hefyd, wrth iddyn nhw gael eu trechu 27-16 gan Gaeredin er gwaethaf tair cic gosb a throsiad gan Hook.

A cholli i wrthwynebwyr Albanaidd wnaeth Caerwysg yn ogystal, wrth i Glasgow ennill o 15-10 – Ceri Sweeney oddi ar y fainc oedd yr unig Gymro yn yr ornest honno.

Trosodd Owen Williams un gic gosb cyn iddo gael ei eilyddio wrth i Gaerlyr drechu Treviso 34-19, tra bod Will James a Tavis Knoyle wedi ymddangos i Gaerloyw yn eu colled nhw o 7-20 i Munster.

Yng Nghwpan Amlin fe serennodd Andy Fenby dros Wyddelod Llundain wrth iddyn nhw roi crasfa i Lusitanos o 79-3, gyda’r Cymro yn tirio deirgwaith yn erbyn y gwrthwynebwyr o Bortiwgal.

Sicrhaodd Sale fuddugoliaeth dros Gaerwrangon nos Wener gyda chais yr un i Dwayne Peel a Jonathan Mills, ac roedd presenoldeb Cymreig cryf iawn yn eu tîm wrth i Eifion Lewis-Roberts a Marc Jones ddechrau yn y rheng flaen, gyda Nick MacLeod yn dod ymlaen fel eilydd.

Yn anffodus colli oedd hanes Ben Broster a Biarritz, mewn canlyniad agos o 28-24 yn erbyn Oyonnax – ac Aled Brew, sydd yn ymuno â’r Dreigiau y tymor nesaf, yn absennol.

A cholli fu hanes y rheiny dros y penwythnos hefyd wrth i Gaerfaddon gipio buddugoliaeth yn Rodney Parade, gyda Paul James y capten a Gavin Henson – yn dechrau’i gêm gyntaf ers mis Hydref – yn cyfrannu at y canlyniad.

Seren yr wythnos: George North – digon o ddewis yr wythnos yma, ond seren y gêm a chais gwych mewn gêm heriol.

Siom yr wythnos: Mike Phillips – er iddo sgorio, colli yn erbyn ei gyn-glwb a diwedd ar eu hymgyrch Ewropeaidd.