Gareth Bale
Dychwelodd Gareth Bale o anaf i’w goes gan ddechrau ei gêm gyntaf ers bron i fis yn y Gynghrair wrth i Real Madrid deithio i Espanyol nos Sadwrn.

Ond noson ddigon distaw gafodd y Cymro, wrth i’w dîm straffaglu i fuddugoliaeth o 1-0 diolch i gôl Pepe. Fodd bynnag, mae’n ganlyniad sy’n eu codi nhw o fewn tri phwynt i’r brig ar ôl i’r ddau geffyl blaen, Barcelona ac Atletico Madrid, gael gêm gyfartal.

Penwythnos siomedig oedd hi i nifer o Gymry’r Uwch Gynghrair, gan gynnwys clybiau Cymru, wrth i Declan John a Craig Bellamy, ddaeth oddi ar y fainc ar yr egwyl, fethu a helpu Caerdydd i ganlyniad yn erbyn Jack Collison a West Ham.

Er i Bellamy ddod yn agos gydag ergyd yn yr ail hanner doedd hi ddim yn ddigon wrth i’r Adar Gleision golli 2-0 – gyda dwy gôl West Ham yn cael eu sgorio o ymosodiadau i lawr asgell chwith John.

Ni lwyddodd Abertawe i ailadrodd eu buddugoliaeth o’r penwythnos diwethaf, wrth i Ben Davies ac Ashley Williams weld eu tîm yn colli 2-0 i ffwrdd o gartref yn erbyn Man United.

Colli o 2-0 oedd hanes Cymry Crystal Palace hefyd wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Tottenham, gyda Danny Gabbidon yn chwarae gêm lawn a Jonny Williams yn dod oddi ar y fainc am 20 munud.

Yn y Bencampwriaeth fe sgoriodd Sam Vokes am yr ail wythnos yn olynol, y tro yma yr ail mewn buddugoliaeth o 2-1 i Burnley yn erbyn Yeovil sy’n eu cadw nhw yn ail yn y tabl.

Ond roedd hi’n newyddion drwg i Andrew Crofts, er iddo greu unig gôl y gêm wrth i Brighton guro Birmingham, wrth iddo orfod gadael y maes gydag anaf i denynnau yn ei ben-glin sy’n golygu ei fod allan am weddill y tymor.

Tri Chymro arall yn unig a chwaraeodd 90 munud yn y gynghrair hon y penwythnos yma, gyda Chris Gunter ac Adam Henley yn ennill 1-0 gyda Reading a Blackburn, a Steve Morison yn colli 1-0 gyda Millwall.

Ac roedd hi’n benwythnos da i Dave Edwards wrth iddo sgorio’r gôl agoriadol i Wolves yng Nghynghrair Un yn eu buddugoliaeth o 2-0 dros Preston, gyda Sam Ricketts yn chwarae gêm lawn ond Wayne Hennessey ar y fainc unwaith eto.

Seren yr wythnos: Sam Vokes – gôl arall wrth iddo barhau â’i dymor disglair.

Siom yr wythnos: Andrew Crofts – ffordd siomedig o orffen tymor sydd wedi bod yn un llwyddiannus iawn iddo hyd yn hyn.