Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi neges i ddymuno’n dda i bobol Cymru dros gyfnod y Nadolig:
“Hoffwn ddymuno’n dda i bawb yng Nghymru dros yr ŵyl. Mae’r Nadolig yn amser arbennig pan fydd cyfle i lawer ohonom ddathlu gyda chyfeillion a theulu,” meddai.
“Fodd bynnag, rwy’n diolch yn arbennig ac yn meddwl am y Lluoedd Arfog, gyda llawer ohonynt yn gwasanaethu dramor i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd. Dyma un aberth o blith llawer a wnânt i amddiffyn ein gwlad.”
Mae hefyd wedi talu teyrnged i’r rheini sy’n gweithio i’n gwasanaethau brys gan nad ydyn nhw’n cael gwyliau dros y Nadolig: “Mae eu gwaith caled a’u hymroddiad yn rhoi budd i ni drwy gydol y flwyddyn,” meddai.
“Gan ddymuno Nadolig llawen a dedwydd i chi.”