Angela Burns
Mae nifer y rhai sy’n astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion a cholegau Addysg Uwch wedi haneru dros y saith mlynedd ddiwethaf, yn ôl ffigyrau a ddaeth i law’r Ceidwadwyr yng Nghymru.
Mae’r blaid felly yn rhybuddio na fydd Cymru yn gallu cystadlu ar lwyfan rhyngwladol, gan fod yr economi yn dibynnu ar gysylltiadau gyda gwledydd Ewropeaidd a thu hwnt.
Mae’r Ceidwadwyr eisoes wedi galw am i ieithoedd tramor modern gael eu dysgu o oed ifanc, fel sy’n digwydd mewn nifer o wledydd Ewropeaidd, er mwyn hybu a gwella hyder plant erbyn iddyn nhw gyrraedd yr ysgol uwchradd.
Cysylltiadau rhyngwladol
Meddai Angela Burns, AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg:
“Mae’r ffigyrau yma’n bryderus iawn ar adeg lle mae’r economi yn fwy dibynnol nag erioed ar gysylltiadau rhyngwladol.
“Rydym yn gwybod fod dysgu ail iaith yn ei gwneud yn haws i ddysgu trydedd a phedwaredd iaith wedyn, felly mewn gwlad ddwyieithog fel Cymru fe ddylen ni fod yn perfformio’n well na gwledydd eraill.
“Mae Carwyn Jones wedi gwylio wrth i astudiaethau ieithoedd tramor ddisgyn yn gyflym, ac wedi anwybyddu’r faith honno a’r effaith ar yr economi – all o ddim eistedd yn ôl rhagor.
“Fe ddylai myfyrwyr fod yn hyderus i astudio o leiaf un iaith dramor hyd at TGAU, ac mae’n rhaid i ni gyflwyno ieithoedd o oed ifanc.”