Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd
Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli teuluoedd cleifion fu farw’n ‘ddiangen’ ar ôl cael llawdriniaeth ar yr iau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd wedi galw am “onestrwydd” gan benaethiaid y gwasanaeth iechyd.

Mae’r llawfeddyg David Paul Berry wedi cael ei wahardd o’i waith yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac mae ymchwiliad ar y gweill gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).

Cafodd yr arbenigwr ar yr iau ei “wahardd yn llawn” o’i ddyletswyddau gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ym mis Ionawr.

Roedd y bwrdd iechyd wedi cynnal ymchwiliad mewnol yn dilyn pryder ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a gafodd nifer o gleifion David Berry.

Ar ôl i’r pryderon hynny gael eu cadarnhau cafodd y mater ei gyfeirio at Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS) ac roedd eu hymchwiliad nhw wedi darganfod y gallai wyth o’r marwolaethau fod wedi eu hosgoi.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd wedi cyfeirio’r mater at Heddlu De Cymru sy’n ymchwilio i’r achosion i weld a yw ymchwiliad troseddol yn briodol.

Cafodd y manylion eu datgelu gan y bwrdd iechyd yn gynharach y mis hwn ar ôl i berthynas un o’r cleifion siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf.

Galw am gyhoeddi canlyniadau ymchwiliad

Mae cyfreithwyr ar ran teuluoedd rhai o’r cleifion hefyd yn galw ar y bwrdd iechyd i gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad.

Mae’r bwrdd iechyd eisoes wedi dweud eu bod yn trafod gyda’r teuluoedd ac yn rhoi gwybod iddyn nhw am unrhyw ddatblygiadau.

Un o’r rhai sy’n cael ei chynrychioli gan y cyfreithwyr yw Maria Davies, partner Martyn Rogers, 66, o Gasnewydd fu farw ym mis Gorffennaf 2012 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd wythnos ar ôl iddo gael llawdriniaeth ar yr iau.

‘Teuluoedd yn haeddu atebion’

Heddiw, dywedodd y cwmni Irwin Mitchell eu bod yn gobeithio y bydd y flwyddyn newydd yn “dod a gwybodaeth newydd ynglŷn â sut yr oedd yn bosib i wyth o bobl farw’n ddiangen.”

“Mae cleientiaid a gollodd aelod o’r teulu o dan ofal David Berry yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn haeddu gwybodaeth dryloyw cyn gynted â phosib gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro,” meddai llefarydd.

Dywedodd bod eu cleientiaid yn haeddu cael gwybod canlyniadau adroddiad y bwrdd iechyd fel eu bod “yn gallu bod yn sicr bod popeth posib yn cael ei wneud i osgoi marwolaethau diangen yn y dyfodol.”

Maen nhw hefyd yn awyddus i wybod pam nad oedd y bwrdd wedi cyhoeddi gwybodaeth yn gynt ynglŷn â faint o gleifion oedd wedi eu heffeithio, er bod y bwrdd wedi gwahardd David Berry o’i waith bron i flwyddyn yn ôl, a hefyd pam na chafodd llinell gymorth ei sefydlu tan fis Rhagfyr er mwyn helpu rhai oedd a phryderon, meddai’r llefarydd.