Cafodd ffermdy yn Swydd Henffordd ei daro gan ladrad tymhorol iawn dros y penwythnos wrth i dyrcwn gwerth £800 gael eu dwyn ddyddiau’n unig cyn y Nadolig.
Roedd yr wyth twrci’n barod ar gyfer y ffwrn gan gawson nhw eu dwyn o oergell mewn fferm yn Ocle Pychard, ychydig filltiroedd o’r Drenewydd.
Cadarnhaodd Heddlu Gorllewin Mercia fod y lladrad wedi digwydd rhwng hanner nos ar nos Sadwrn a 6yb ar ddydd Sul.
“Roedd yr wyth twrci gafodd eu dwyn wedi’u pacio mewn bocsys unigol yn barod i’w coginio ar ddydd Nadolig,” meddai llefarydd yr heddlu.
“Roedd y tyrcwn i gyd yn rai ‘Kelly Bronze’ ac roedd pob un bocs gyda’i enw arno.
“Roedd pedwar o’r tyrcwn yn pwyso 8kg a dau yn pwyso 9kg. Credir fod gwerth y tyrcwn oddeutu £800.
“Mae swyddogion sydd yn ymchwilio i’r lladrad yma’n awyddus i siarad gydag unrhyw un sydd wedi gweld cerbydau amheus yn ardal Ocle Pychard dros y penwythnos, neu unrhyw un sydd wedi cael cynnig i brynu unrhyw dyrcwn sydd yn debyg i’r rheiny gafodd eu dwyn o’r fferm.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â heddlu Henffordd gyda’r rhif cyfeirnod 176S 221213, neu ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.