Denis MacShane
Mae’r cyn weinidog Llafur Denis MacShane wedi cael ei garcharu am chwe mis ar ôl cyfaddef twyllo ei dreuliau gwerth bron i £13,000.

Roedd y cyn Aelod Seneddol eisoes wedi pledio’n euog i gyhuddiad o hawlio arian drwy dwyll am “wasanaethau ymchwil a chyfieithu.”

Roedd MacShane, 65, wedi defnyddio’r arian i deithio i Ewrop, gan gynnwys taith i Baris i fod yn un o’r beirniaid mewn cystadleuaeth lenyddol.

Daeth ei gyfaddefiad yn dilyn pedair blynedd o ymchwilio i’w dreuliau Seneddol.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr Mr Ustus Sweeney bod anonestrwydd MacShane wedi bod yn “sylweddol ac wedi ei ail-adrodd sawl gwaith dros gyfnod hir o amser.”

Dywedodd wrth MacShane y bydd yn rhaid iddo dreulio hanner ei ddedfryd yn y carchar a thalu costau o £1,500.