Ian Watkins
Mae  cyn brif leisydd y Lostprophets Ian Watkins yn dechrau ar gyfnod hir dan glo heddiw ar ôl cael ei ddedfrydu i gyfanswm o 35 mlynedd yn y carchar.

Roedd wedi pledio’n euog i gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant – gan gynnwys ceisio treisio babi.

Cafodd ei ddedfrydu i 29 mlynedd yn y carchar a bydd ar drwydded am chwe blynedd arall. Fe fydd Watkins yn gorfod treulio 20 mlynedd dan glo cyn cael gwneud cais am barôl. Bydd yn cael ei symud i garchar Wakefield yn Swydd Efrog, lle mae Mark Bridger, llofrudd April Jones, hefyd wedi’i garcharu am oes.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddoe dywedodd y barnwr Mr Ustus Royce bod Watkins yn peri “risg sylweddol” i ferched ifanc a phlant a bod angen amddiffyn y cyhoedd rhag “ysglyfaeth rhywiol.”

Ychwanegodd nad oedd Watkins wedi dangos unrhyw edifeirwch am yr hyn a wnaeth.

‘Erchyll’

Dywedodd y barnwr wrth Watkins a’r ddau ddifynydd arall bod cyfreithwyr a barnwyr wedi arfer delio gydag achosion “erchyll” ond bod y dystiolaeth yn yr achos yma “wedi torri tir newydd.”

Clywodd y llys bod Watkins, 36 oed, o Bontypridd, wedi cynllwynio gyda’r ddwy ddynes i gam-drin eu plant.

Cafodd y ddwy ddynes hefyd eu dedfrydu i garchar. Fe fydd Mam A yn treulio 14 mlynedd dan glo a Mam B, 17 mlynedd yn y carchar. Ni ellir cyhoeddi eu henwau am resymau cyfreithiol.

‘Yr achos ddim ar ben’

Ers yr achos mae’r heddlu wedi lansio apêl yn gofyn i ddioddefwyr eraill a allai fod wedi cael eu cam-drin gan Watkins i gysylltu â nhw.

Maen nhw’n ymchwilio i nifer o achosion honedig eraill ar ôl derbyn nifer o adroddiadau gan gynnwys rhai yn America a’r Almaen.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Peter Doyle: “Mae’r ymchwiliad wedi datgelu’r dystiolaeth fwyaf ffiaidd o gam-drin plant i mi erioed ei weld yn ystod fy 28 mlynedd fel swyddog heddlu.

“Nid yw’r ddedfryd heddiw yn golygu y bydd yr achos yn dod i ben ac mi fyddwn ni’n parhau i weithio’n ddiflino i geisio dod o hyd i ddioddefwyr eraill neu dystion.

“Mae ymchwiliadau hefyd yn cael eu cynnal gan heddluoedd ar draws y byd gan gynnwys yr Almaen a’r Unol Daleithiau.”

‘Mamau’n cynnig eu plant i Watkins’

Mae ei sylwadau’n cadarnhau’r hyn a ddywedodd cyn-gariad Watkins, Joanna Majic, 38, sy’n honni ei fod wedi cam-drin cannoedd o blant a bod merched oedd yn dilyn y grwp wedi cynnig eu plant iddo. Ond dywedodd ei fod yn annhebyg y bydd y merched yn fodlon cysylltu â’r heddlu.

Mae Joanna Majic wedi bod yn feirniadol iawn o’r heddlu gan ddweud ei bod wedi eu rhybuddio sawl gwaith am dueddiadau Watkins rai blynyddoedd yn ôl.

Ymchwiliad

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn cynnal ymchwiliad i’r modd y gwnaeth Heddlu de Cymru ddelio gyda gwybodaeth am Ian Watkins.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Peter Vaughan,  bod yr heddlu wedi cynnal adolygiad yn 2012 i’r digwyddiadau a arweiniodd at arestio Ian Watkins a’u bod nhw wedi cydnabod bod rhai materion wedi bod yn achos pryder a’u bod wedi cyfeirio’r mater at yr IPCC.

Rydyn ni’n deall bod ’na ddiddordeb gwirioneddol gan y cyhoedd a phryder ynglŷn â’r achos yma ac rydym wedi trafod hynny gyda’r IPCC.

“Mi fyddwn ni mewn safle i drafod ymhellach ar ôl i’r ymchwiliad gael ei gwblhau.”