Ni fydd yn rhaid i gwmnïau ffracio hysbysu bob tŷ sy’n cael eu heffeithio pan maen nhw’n tyllu am nwy siâl o hyn ymlaen.

Mae newidiadau i’r rheolau cynllunio yn golygu fod  gan y cwmnïau ffracio hawl i roi hysbyseb mewn papur newydd er mwyn rhoi gwybod i gymunedau y bydd gwaith tyllu yn digwydd yn yr ardal.

Cyn hyn, roedd rhaid i bob tŷ neu fusnes gael eu hysbysu yn unigol, ond mae deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Prydain yn dweud na fydd yn rhaid i hyn ddigwydd.

Anymarferol

Mae’r Gweinidog Cymunedau Nick Boles  wedi dweud ei bod hi’n anymarferol i gwmnïau orfod hysbysu bob tŷ yn unigol.

“Rydym wedi gwneud y newidiadau oherwydd bod tyllu am nwy ac olew yn wahanol i ddulliau eraill o dyllu,” meddai.

“Mae’n digwydd ar ddarn bach o arwynebedd ac nid yw hi wastad yn bosib penderfynu ar yr union ffordd o dyllu,” meddai.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn pryderu y gall ffracio arwain at ddaeargrynfeydd bach a gwenwyn dwr.