Ian Watkins
Mae Heddlu De Cymru wedi lansio apêl ryngwladol am wybodaeth ynglŷn ag Ian Watkins – gyda swyddogion yn cydweithio gyda heddluoedd ar draws Ewrop ac America.
Mae’r heddlu’n credu y gallai’r cyn ganwr gyda Lostprophets fod wedi cam-drin nifer o blant eraill yn ystod ei deithiau gyda’r grŵp.
Mae ditectifs yn ofni y gallai o leiaf dau o blant eraill for wedi eu cam-drin yn yr Almaen ac America.
“Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw’r Almaen a UDA,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Peter Doyle, un o’r uwch swyddogion yn yr achos.
Dywedodd bod yr heddlu wedi bod mewn cysylltiad ag Interpol, Heddlu Ffederal yr Almaen a gwasanaeth diogelwch Homeland yn Boston a Los Angeles.
“Y rheswm am hynny yw oherwydd ei fod wedi teithio mor eang. Ry’n ni o’r farn bod ’na ddioddefwyr eraill,” meddai.
“Ein blaenoriaeth yw adnabod a diogelu’r plant, lle bynnag maen nhw.”
Mae ei sylwadau’n cadarnhau’r hyn a ddywedodd cyn-gariad Watkins, Joanna Majic, 38, sy’n honni ei fod wedi cam-drin cannoedd o blant a bod merched oedd yn dilyn y grwp wedi cynnig eu plant iddo. Ond dywedodd ei fod yn annhebyg y bydd y mamau yn fodlon cysylltu â’r heddlu.
Mae Joanna Majic wedi bod yn feirniadol iawn o’r heddlu gan ddweud ei bod wedi eu rhybuddio sawl gwaith am dueddiadau Watkins rai blynyddoedd yn ôl.