Bydd ddiffoddwyr tan yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn cynnal rhagor o streiciau ar Noswyl Nadolig a Nos Galan, yn ymwneud a’r anghydfod dros bensiynau.

Maen nhw wedi cynnal streiciau bum gwaith yn barod ond dyma’r tro cyntaf i ddiffoddwyr o’r Alban ymuno yn y streicio hefyd.

Bydd streiciau yn cael eu trefnu:

  • rhwng 7-12 yr hwyr, Rhagfyr 24
  • 6:30 yr hwyr, Rhagfyr 31
  • 12:30 y bore, Ionawr 1
  • Rhwng 6:30-8:30yh Ionawr 3

Rhwng 7 yr hwyr ar 27 Rhagfyr a 7 yr hwyr ar 28 Rhagfyr, bydd diffoddwyr tan yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn gwrthod gweithio oriau ychwanegol allan o’u gwirfodd, oni bai am y rhai sy’n gweithio yn yr adrannau rheoli.

‘Afresymol’

Meddai ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Frigad Dan (FBU), Mark Wrack: “Mae diffoddwyr tan yn rhoi gwasanaeth o’r radd flaenaf, 24 awr y dydd, 365 o ddyddiau’r flwyddyn a bydd y streiciau yn atgoffa’r Llywodraeth faint y maen nhw’n dibynnu ar ein proffesiynoldeb, ein hymrwymiad, a’n hyblygrwydd.

“Ond ni ddylwn ni orfod bod yn cynnal streic. Mae hi’n afresymol fod pryderon y diffoddwyr tan heb gael eu sortio hyd yn hyn.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth roi’r gorau i honni eu bod nhw’n cynnal trafodaethau – maen nhw wedi gwrthod siarad am ddeufis ac yn mynnu gwthio cynigion sy’n anfforddiadwy ac yn annheg.”

Cefndir y streic

Mae’r undeb yn cyhuddo Llywodraeth San Steffan o “anwybyddu” eu pryderon am y cynnydd mewn cyfraniadau sy’n golygu y bydd  diffoddwyr tân  yn gorfod talu miloedd yn ychwanegol at eu pensiynau.

Maen nhw hefyd yn anhapus oherwydd y gofyn i ddiffoddwyr barhau i weithio am ragor o flynyddoedd.

Dadl Llywodraeth Prydain yw bod gan ddiffoddwyr drefniadau pensiwn arbennig o dda ac y dylai diffoddwyr allu parhau’n ddigon ffit i weithio nes eu bod yn 60 oed.