Ysgol Uwchradd Cwmcarn
Fe fydd Ysgol Uwchradd Cwmcarn yng Nghaerffili yn ail agor yn y flwyddyn newydd, ar ôl iddi fod ynghau ers mis Hydref y llynedd wedi i asbestos gael ei ddarganfod yn yr adeilad.
Mae’r 900 o ddisgyblion wedi bod yn mynychu safle Coleg Gwent yng Nglyn Ebwy dros dro ac yn gobeithio bod yn ôl yn Ysgol Cwmcarn erbyn Ionawr 6.
Fe wnaeth Llywodraethwyr ac aelodau o chweched dosbarth yr ysgol ymgasglu heddiw i weld aelodau o Gyngor Sir Caerffili yn rhoi allweddi’r ysgol yn nwylo’r Brifathrawes, Jacqui Peplinski.
“Mae trefniadau i groesawu disgyblion a staff yn ôl i’r ysgol wedi cychwyn,” meddai Jacqui Peplinski.
“Bydd hi’n grêt cael pawb sy’n rhan o’r ysgol yn ôl gartref gyda’n gilydd yn y flwyddyn newydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Passmore, Aelod Cabinet dros Addysg a Dysgu Hir dymor fod “hyn yn arwydd fod cyfnod anodd o 12 mis yn dod i ben”.
Ysgol Cwmcarn yn ail agor
Yr ysgol wedi bod ynghau ers dros flwyddyn oherwydd problemau asbestos
Poblogaidd
← Stori flaenorol
Rhybudd am “oblygiadau byd eang” i’r cynhesu yn yr Arctig
Mae Siberia wedi profi tymereddau sydd 10C yn gynhesach eleni na’r hyn a fyddai’n arferol
Stori nesaf →
Arestio cyn gyflwynydd tywydd am yr ail dro
Holi Fred Talbot mewn cysylltiad â honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol
Hefyd →
Dim newid i swydd Llywydd UMCA
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad o swyddi’r Undeb Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dilyn pryderon