Mae swyddogion gwasanaethau tân yng Nghymru yn rhybuddio pobol i fod yn arbennig o ofalus yn ystod y streic dan heno a fory.
Bydd aelodau o Undeb y Frigâd Dân yn cerdded allan o’u gwaith am bedair awr ar 13 a 14 Rhagfyr, rhwng 6 o’r gloch a 10 o’r gloch yr hwyr – y bumed streic ers mis Medi ac mae diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn bygwth gweithredu eto yn y flwyddyn newydd.
Mae Rod Hammerton, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n ymbil ar y cyhoedd i “gymryd gofal ychwanegol” yn eu cartrefi ac ar y ffyrdd yn ystod y ddwy streic.
Yr ateb gorau yw osgoi tân neu ddamwain yn y lle cynta’ meddai.
Ymladdwyr Tân Cynorthwyol
Mae gwasanaethau tân Cymru yn gwneud trefniadau arbennig i lenwi’r bylchau yn ystod yt streic.
Fe fydd y gwasanaeth yn ne Cymru, er enghraifft, yn defnyddio ymladdwyr tân cynorthwyol, sef aelodau o’r cyhoedd sydd wedi derbyn hyfforddiant sylfaenol.
Fe fydd y rheiny’n gallu delio â’r rhan fwya’ o alwadau meddai Rod Hammerton.
Cefndir y streic
Mae’r undeb yn cyhuddo Llywodraeth San Steffan o “anwybyddu” eu pryderon am y cynnydd mewn cyfraniadau sy’n golygu y bydd diffoddwyr tân yn gorfod talu miloedd yn ychwanegol at ei pensiynau.
Maen nhw hefyd yn anhapus oherwydd y gofyn i ddiffoddwyr barhau i weithio am ragor o flynyddoedd.
Dadl Llywodraeth Prydain yw fod gan ddiffoddwyr drefniadau pensiwn arbennig o dda ac y dylai diffoddwyr allu parhau’n ddigon ffit i weithio nes eu bod yn 60 oed.