Y Sheldonian yn Rhydychen
Mae disgyblion ysgol o Gymru sy’n cynnig am lefydd ym mhrifysgolion Oxbridge yn llai tebyg o lwyddo na phobl ifanc o Loegr neu Ogledd Iwerddon.

Dyna ganfyddiadau cynta’r aelod seneddol sydd wedi ei benodi’n llysgennad tros brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt yng Nghymru.

Mae’n awgrymu bod diffyg hunanhyder academaidd a diffyg hunan-barch cyffredinol yn atal disgyblion o Gymru rhag cynnig.

Ond mae’n dangos hefyd fod llai o’r ymgeiswyr eu hunain yn llwyddiannus o gymharu â phobl ifanc o’r gwledydd eraill.

Yr ystadegau

  • Yn 2012, dim ond 17.4% o’r ymgeiswyr Cymreig i Rydychen oedd yn llwyddiannus – 75 allan o 424.
  • Dim ond 22% oedd yn llwyddiannus yng Nghaergrawnt – 60 allan o 269.
  • Yng Nghaergrawnt, roedd 27% o ymgeiswyr o Loegr wedi llwyddo a 31.5% o Ogledd Iwerddon.

Y rhesymau

Mae nifer o resymau cymhleth tros y diffyg, meddai Paul Murphy, AS Torfaen a chyn Ysgrifennydd Cymru yn ei adroddiad tros-dro cyntaf.

Mae’r rheiny’n cynnwys diffyg hyder, llai o ddisgyblion yn cael y graddau uchaf yn eu Lefel A.

Ond mae hefyd yn awgrymu bod athrawon yn methu â rhoi digon o gymorth i ddisgyblion fynd trwy’r broses dderbyn a bod llawer o bobol yng Nghymru’n credu bod y ddwy brifysgol yn elitaidd.

Elitaidd – ‘camsyniad’

Mae Paul Murphy yn gwadu hynny ac yn dweud y dylai disgyblion gael cysylltiad gyda myfyrwyr lleol sydd wedi bod yn Oxbridge.

“Mae rhai myfyrwyr y bues i’n siarad â nhw yn dweud eu bod yn ystyried Rhydychen a Chaergrawnt yn sefydliadau elitaidd, lle mae cefndir a dosbarth cymdeithasol yn bwysig,” meddai.

“Gall y camsyniadau hyn atal myfyrwyr rhag ymgeisio a gall achosi pryder ychwanegol yn ystod y broses ymgeisio.”

  • Fe gafodd Paul Murphy ei benodi gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, i geisio cynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n mynd i Oxbridge.