Logo Ysgol Penfro
Fe fydd ysgol gyfun yn y De-orllewin yn agor fel arfer heddiw er gwaetha’ marwolaeth bachgen 14 oed.
Dim ond un frawddeg sydd am y digwyddiad ar wefan Ysgol Penfro, yn cadarnhau nad yw’r ysgol yn cau.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad pan ddaethpwyd o hyd i gorff y bachgen mewn coed gerllaw’r ysgol.
‘Marwolaeth sydyn’
Does dim esboniad am y farwolaeth eto ac mae’r heddlu’n ei galw’n “farwolaeth sydyn”.
Maen nhw wedi rhoi gwybod i’r Crwner ac i deulu’r bachgen.
Mae swyddogion gofal ar gael i roi cyngor a chefnogaeth i weddill y disgyblion.