Mae gwasanaethau’r Ambiwlans Awyr yn ôl ar ôl gwaharddiad rhag hedfan,

Fe gafodd yr hofrenyddion eu cadw ar y ddaear ar ôl i nam gael ei ddarganfod ar hofrennydd tebyg – yr un model â’r hofrennydd a darodd yn erbyn to tafarn y Clutha yn Glasgow, gan ladd naw o bobol.

Un o hofrenyddion EC135 cwmni Bond oedd hwnnw, er nad oes prawf eto mai nam peirianyddol oedd ar fai am y ddamwain.

Cadarnhaodd Ambiwlans Awyr Cymru bod 2 allan o’u 3 hofrenyddion yn dychwelyd i wasanaeth tra bod profion pellach yn cael eu cynnal ar y trydydd.

Dywedodd Cymdeithas Ambiwlans Awyr sy’n cynrychioli y rhan fwya’ o rwydwaith ambiwlansys awyr y Deyrnas Unedig bod 16 o’u 36 o hofrenyddion wedi cael eu effeithio gan y gwaharddiad.