Canolfan Mileniwm Cymru
Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi penodi Graeme Farrow fel cyfarwydd artistig newydd y ganolfan.

Cyn ei benodiad,  Graeme Farrow, 41 oedd yn gyfrifol am gynllunio a chyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau gwerth bron i £15 miliwn ar gyfer Dinas Diwylliant cynta’r DU yn ninas y Deri.

Meddai Graeme Farrow: “Rwyf wrth fy modd fy mod i’n ymuno â’r tîm yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar adeg mor gyffrous yn ei hanes.

“Wrth i’r Ganolfan nesu at ei 10fed pen-blwydd, mae cymaint i edrych ymlaen ato. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn fwy na lleoliad, mae’n haeddu ei rôl allweddol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“Roeddwn yn llawn edmygedd o’r cynhesrwydd, agwedd, sgiliau ac uchelgais amlwg y bobl wnes i gyfarfod yng Nghaerdydd felly rwy’n credu’n gryf bod dyfodol disglair i Ganolfan Mileniwm Cymru.”