Saunders Lewis
Ym mis Ionawr cynheilir noson ar y cyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth o’r Blaid ym Mhenarth i nodi pen-blwydd 90 oed cyfarfod cyntaf Y Mudiad Cymreig a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru y flwyddyn ganlynol.

Yn y cyfarfod yn 1924, dechreuodd grŵp bychan o genedlaetholwyr dan arweiniad y darlithydd a’r dramodydd Saunders Lewis lunio polisïau ac amcanion oedd â’r nod o achub Cymru rhag difodiant diwylliannol a gwleidyddol.

Bu’r grŵp yn cwrdd yn gyfrinachol drwy gydol 1924 tra fo grŵp arall o genedlaetholwyr yn cwrdd yng Ngwynedd tua’r un adeg.

Yn gynnar yn 1925, cysylltodd arweinydd y grŵp gogleddol H.R. Jones, â Saunders Lewis i’w wahodd i helpu wrth greu plaid wleidyddol newydd.  Fe gadwodd y ddwy garfan mewn cysylltiad agos ac ar Awst 5, 1925, teithiodd Saunders Lewis a’r Parch Ffred Jones i Bwllheli i ymuno ag H.R. Jones a thri arall – y Parchedig Lewis Valentine, y gwyddonydd Moses Griffiths a’r saer D.E. Williams – mewn cyfarfod i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru yn fudiad cenedlaethol i Gymru.

Hanesyddol

Cynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol yn 11 Bedwas Place, Penarth ym mis Ionawr 1924, ac fe fydd y digwyddiad coffa yng ngwesty’r Windsor Arms Nos Fawrth, Ionawr 7.

Y siaradwr fydd yr Athro Richard Wyn Jones, sy’n hanesydd, sylwebydd gwleidyddol a darlledwr.

Dywedodd wrth golwg360 bod y digwyddiad yn 1924 yn “un o ragdegbwyr pwysicaf Plaid Cymru” oherwydd yr amryw o bobl “diddorol” oedd yn bresennol yno.