Poster yn gwrthwynebu ffracio ym Mro Morgannwg (o wefan y grwp protest)
Mae arweinydd Cymreig un o’r prif fudiadau gwyrdd wedi ymosod ar benderfyniad y Canghellor i roi manteision treth i gwmnïau ffracio.
Doedd hynny ddim yn iawn i Gymru, meddai Anne Meikle, cyfarwyddwraig WWF Cymru, gan rybuddio y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio’n galetach i warchod yr amgylchedd yma.
Yn Natganiad yr Hydref ddoe, fe gyhoeddodd y Canghellor, George Osborne, y byddai lefelau treth ar elw cynta’ cwmnïau ffracio yn cael ei haneru.
Gwrthwynebu
Roedd hynny er mwyn eu hannog i fuddsoddi – er bod pobol leol yn gwrthwynebu cynlluniau i chwilio am nwy siâl mewn llefydd fel Bro Morgannwg a Wrecsam.
Eisoes mae ffracio’n digwydd ar raddfa anferth mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau a Chanada gan ostwng pris tanwydd yno.
Ond mae gwrthwynebwyr yn rhybuddio rhag difrod i’r amgylchedd trwy ddefnydd o gemegau tan ddaear a pheryg honedig o achosi daeargynfeydd.
‘Gorliwio manteision’
Yn ôl Anne Meikle, fe fyddai’r manteision treth yn symud y pwyslais oddi wrth arbed ynni ac ynni gwyrdd.
Roedd hi’n honni hefyd bod honiadau am effaith ffracio ar ostwng biliau ynni yn cael eu “gorliwio”.
“Yn dilyn y datganiad gan y Canghellor, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio’n galed i gadw Cymru ar y trywydd iawn o ran meithrin economi werdd a chyflawni ei hymrwymiadau ar y newid yn yr hinsawdd,” meddai.