Holyrood
Fyddai Alban rydd ddim yn cael ei thorri allan o’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl arbenigwr ar y cyfansoddiad.
Fe gafodd pwyllgor yn Senedd yr Alban yn Holyrood glywed nad oedd er budd i neb i gael twll yn yr Undeb, er gwaetha’ honiadau’r ymgyrchwyr ‘Na’ ym mrwydr y refferendwm.
Fe ddywedodd un o ASA plaid annibyniaeth, yr SNP, fod y sylwadau’n “chwistrelliad o synnwyr cyffredin” yn y ddadl.
“Mae’r ofnau a’r dychryn y mae’r ymgyrch Na wedi bod yn eu defnyddio ynglŷn â lle’r Alban yn Ewrop wedi cael eu chwalu’n llwyr,” meddai Christina McKelvie wrth bapur The Scotsman.
‘Dadlau caled – ond dim gwrthod’
Doedd hi ddim yn debygol y byddai’r un o wledydd yr Undeb eisiau rhwystro’r Alban rhag dod yn aelod, yn ôl yr Athro Michael Keating o Ganolfan yr Alban ar Newid Cyfansoddiadol.
Fe fyddai hynny’n cosbi trigolion alltud a busnesau o’r gwledydd hynny, meddai.
Ond fe rybuddiodd y byddai rhai gwledydd yn anhapus pe bai’r Alban yn cael annibyniaeth ac fe allen nhw fargeinio’n galed a chodi’r pris.
Fe rybuddiodd hefyd fod amcangyfrifon yr SNP o allu gorffen y trafodaethau aelodaeth o fewn deunaw mis yn rhy obeithiol – fe fyddai hynny’n fwy tebyg o gymryd dwy flynedd.
Sbaen – y cefndir
Mae gwledydd fel Sbaen wedi gwneud synau bygythiol ynglŷn ag aelodaeth yr Alban o’r Undeb.
Yr wythnos ddiwetha’, fe ddywedodd Prif Weinidog y wlad y bydden nhw’n ei hatal rhag ymuno.
Mae hynny’n rhannol oherwydd ofn Sbaen y bydd rhanbarthau fel Catalunya hefyd yn mynd am annibyniaeth.