Llifogydd ddoe (Llun: PA)
Doedd dim rhagor o stormydd difrifol ar lannau’r Gogledd dros nos, er gwaetha’ rhybuddion.
Ond mae cannoedd o bobol yn aros i weld faint o ddifrod sydd wedi ei wneud i’w cartrefi, yn enwedig yn ardal y Rhyl.
Roedd rhai pobol oedrannus wedi gorfod cael eu cario mewn cychod o’u tai ar ôl yr ymchwydd llanw mwya’ ers deng mlynedd.
Gwylio dros nos
Roedd yr heddlu a gwasanaethau brys ar wyliadwriaeth yn yr ardal dros nos ond doedd y tywydd na’r llanw ganol nos ddim cynddrwg â’r digwydd.
Mae ffordd y môr yn Y Rhyl ynghau a’r rheilffordd hefyd, oherwydd y cerrig a’r sbwriel sydd wedi eu taflu drosti.
Roedd y prif broblemau yn ardal Ffordd Garford y Rhyl, gyda’r heddlu’n gofyn i bobol roi gwybod os oedden nhw wedi symud oddi yno i fynd at deulu neu ffrindiau.