Y Senedd
Fe fydd digwyddiad mawr cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Westminster yn San Steffan, er mwyn rhoi cyfle “i bawb” gofio am Nelson Mandela.

Fe gafodd y bwriad ei gyhoeddi gan gyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, a oedd yn ymgyrchydd gwrth-apartheid ac yn fab i rieni oedd wedi gorfod dianc o Dde Affrica oherwydd eu cefnogaeth i Nelson Mandela a’i fudiad, yr ANC.

Fe ddywedodd Peter Hain fod y Llefarydd wedi penderfynu, pan aeth cyn Arlywydd De Affrica’n wael yn yr haf, y bydden nhw’n cael digwyddiad cyhoeddus ac fe fydd hwnnw’n digwydd, fwy na thebyg, yr wythnos nesa’,

Fe fyddai’n gyfle i bawb, gan gynnwys eraill oedd wedi dianc rhag apartheid, i gofio am  Mandela, meddai AS Castell Nedd.

“Mae’n siwr y bydd y Senedd eisiau talu teyrnged ei hun ond dw i’n credo ei bod hi’n bwysig ei bod yn agor ei drysau fel bod eraill yn gallu dod at ei gilydd i gofio am fywyd anhygoel, person oedd yn olau tros gyfiawnder a rhyddid ar draws y byd,” meddai.