Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio pobl ar hyd arfordir Gogledd Cymru i fod yn wyliadwrus ynglŷn â llifogydd heddiw.

Mae disgwyl i rybuddion llifogydd gael eu cyhoeddi heno ar gyfer ardaloedd gan gynnwys Traeth Coch, Llanddulas, Rhyl, Prestatyn, Y Parlwr Du, Ffynnongroyw, Bagillt a Greenfield, ac Arglawdd y Gogledd a Phenarlâg ar yr afon Dyfrdwy.

Mae’r rhybuddion yn dilyn llanw uchel a gwyntoedd cryfion all weld lefel y môr yn codi o leiaf un metr, gan olygu y gall tonnau godi dros amddiffynfeydd llifogydd.

Mae disgwyl i’r llanw gyrraedd ei uchaf am tua 11.30yb ym mannau dwyreiniol Ynys Môn gan weithio’i ffordd ar hyd yr arfordir tuag at sir y Fflint erbyn y prynhawn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi galw ar bobl sydd yn byw ac yn gweithio ar hyd arfordir Gogledd Cymru, yn enwedig yn yr ardaloedd hyn, i fod yn ofalus a chadw llygad ar eu gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf.

Rhybuddiodd CNC i bobl beidio â mynd i’r môr yn ystod y tywydd garw oherwydd y perygl o gael eu golchi i ffwrdd gan don neu daro gan falurion sy’n chwythu yn y gwynt.

Bydd timau ymateb i argyfwng ar hyd yr ardal yn cadw llygad ar yr amddiffynfeydd ac yn clirio unrhyw ddraeniau sydd wedi’u gorchuddio.

Ond yn y cyfamser mae CNC wedi rhybuddio pobl fod dŵr llifogydd yn gallu bod yn beryglus tu hwnt ac wedi cynghori pobl i beidio â cheisio cerdded na gyrru drwyddo heb gyfarwyddyd gan wasanaethau argyfwng.

Mae rhybuddion a’r newyddion diweddaraf am y llifogydd ar gael o wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, www.naturalresourceswales.gov.uk/alerts, neu wrth ffonio’r llinell gymorth 0845 988 11 88.