Alun Ffred Jones
Mae Plaid Cymru wedi galw am wneud trethi busnes yn decach i fusnesau bach trwy newid y drefn o gyfri maint eu biliau.
Dan y drefn bresennol, medden nhw, mae busnesau bach yng Nghymru yn talu mwy mewn trethi busnes na busnesau bach yn yr Alban a Lloegr, tra bod busnesau mwy yn talu llai.
Gyda datganoli pwerau dros drethi busnes i Lywodraeth Cymru yn debyg o ddigwydd cyn yr etholiad yn 2015 galwodd Plaid Cymru ar i Gymru ddilyn esiamplau’r gwledydd hynny a thorri trethi busnes i fusnesau bach.
‘Ddim yn deg’
Fe wnaed yr alwad gan lefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC, a hynny cyn Sadwrn Busnesau Bach y penwythnos hwn.
“Gyda Chymru yn awr yn cymryd rheolaeth lawn dros drethi busnes, gallwn helpu mwy ar fusnesau bach trwy ddilyn esiampl Lloegr a thorri’r dreth y maen nhw’n ei thalu,” meddai.
“Ar hyn o bryd, gan Gymru y mae’r trethi busnes ddrutaf i fusnesau bach ond y rhai rhataf i fusnesau mawr.
“Yn amlwg, tydi hyn ddim yn deg, a byddai llywodraeth Plaid Cymru yn newid hyn trwy gyflwyno cyfradd newydd i fusnesau mwy, a thorri’r dreth i fusnesau llai.