Mae angen system o gosbau a chymhellion i wneud yn siŵr fod cynghorau Cymru’n dod i gydweithio ynghynt, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Y Llywodraeth ddylai arwain y broses, meddai’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, gan fynnu bod angen gweithredu ar frys i “ddiogelu dyfodol gwasanaethau cyhoeddus”.

Maen nhw’n dweud bod eisiau rhoi’r pwyslais ar wasanaethau nid ar y trefniadau gweinyddol.

Os bydd y gwasanaethau’n iawn, fe fydd y trefniadau’n dilyn, medden nhw yn eu hadroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Gwasanaeth yn dod gynta’

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol:

“Mae yna benderfyniadau anodd o’n blaenau, ond mae’r Pwyllgor yn credu bod ansawdd y gwasanaeth yn hollbwysig ac y dylai hynny fod yn flaenoriaeth.

“Dyna pam yr ’yn ni am weld Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad cryf o ran cyflymu’r broses hon, a chanolbwyntio mwy ar y meysydd hynny lle bydd cydweithio yn cynnig y canlyniadau mwyaf buddiol, yn hytrach na gwneud hynny drwyddi draw.”

Y prif negeseuon

Ymhlith argymhellion eraill yr adroddiad mae galwad am ragor o asesu a chasglu tystiolaeth cyn i awdurdodau lleol ymrwymo i wario ar gytundebau cydweithio.

Mae’r pwyllgor hefyd yn dweud bod angen asesu gwell i weld pa syniadau sydd fwyaf llwyddiannus.

Ond eu prif neges yw fod angen gweithredu ar frys.

Pwynt ola’r adroddiad

“Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mewn awdurdodau lleol yn benodol, yn wynebu dyfodol ariannol anodd iawn.

“Rydym wedi clywed gan dystion dibynadwy iawn am yr angen i fynd i’r afael â hyn ar fyrder.

“Nid yw’r modd y mae awdurdodau lleol yn cydweithio ar hyn o bryd yn cynnig ateb digonol, ac nid yw’r broses yn digwydd yn ddigon cyflym nac yn ddigon cyson drwy Gymru.

“Mae angen cymryd camau ar fyrder i ddiogelu dyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”