Mae Nia Roberts wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei bod hi’n “fwy na hapus” yn cael rhoi’r gorau i’w rhaglen bnawn ar Radio Cymru.

Roedd hi’n gwybod yn reddfol nad oedd y slot yma’n gweddu iddi, meddai.

Bnawn Llun roedd John Hardy yn cyhoeddi’n fyw ar Radio Cymru mae ef fydd yn cyflwyno’r rhaglen tan y Dolig, gyda Tommo yn cymryd drosodd yn y gwanwyn.

“Dw i, Radio Cymru a’r gynulleidfa yn gytûn nad y prynhawn oedd fy lle i yn yr amserlen,” meddai Nia Roberts.

“Ar ôl ugain mlynedd o ddarlledu’n ddyddiol mae rhywun yn gwybod yn reit dda lle mae’n ffitio yn yr amserlen, a phwy sy’n gwrando ar wahanol adegau o’r dydd.

“Yn sicr, wedi i mi fynd i’r prynhawn, roeddwn i’n cael ymateb o bob man bod pobol yn gweld fy eisiau i yn y bore. Mae pobol yn gwrando yn wahanol yn y prynhawn.

“Roedd pawb yn gytûn bod [symud i’r prynhawn] wedi bod yn gamgymeriad golygyddol.

“Roeddwn i’n gwybod, pan wnes i’r newid yn Hydref 2012, roeddwn i’n gwybod o’r diwrnod cyntaf mai camgymeriad oedd o. Roedd yna rywbeth yn fy nŵr i.

“Ond, mi wnes i aros yn driw i Radio Cymru, ac rydw i wedi aros yn driw nes bod y cyhoeddiadau [gan Betsan Powys ynghylch amserlen newydd y Gwanwyn] wedi eu gwneud.”

Roedd yn “hapus iawn i ollwng awenau’r pnawn er mwyn canolbwyntio ar raglenni sy’n gweddu yn well i mi… pethau sydd â mwy afael ynddyn nhw, pethau sydd yn fy siwtio i yn well.

“Ac roedd hi’n braf iawn clywed Golygydd Radio Cymru, Betsan Powys, wrth drafod y newidiadau , yn dweud fy mod i’n llais creiddiol i Radio Cymru. A’i bod hi’n gobeithio cael y gorau allan ohona i yn y drefn newydd. A dw i’n Amenio hynny.”

Betsan Powys yn egluro’r newidiadau yng nghylchgrawn Golwg