Mae’n bosib y bydd BBC Cymru yn symud swyddi o Fangor i Gaernarfon, os bydd S4C yn penderfynu symud eu pencadlys i Wynedd.

Gallai staff y BBC ym Mryn Meirion Bangor gael eu symud i weithio mewn adeilad yn Noc Fictoria Caernarfon, pe bae S4C yn creu pencadlys newydd yno.

Mae les y BBC ar eu swyddfeydd a stiwdios ym Mryn Meirion yn dod i ben yn 2021, a’r hyn dan ystyriaeth yw rhannu safle newydd gydag S4C ar lannau’r Fenai.

Astudiaeth

“Ar hyn o bryd mae S4C yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb i’r posibilrwydd o symud ein pencadlys i Wynedd neu Gaerfyrddin,” meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C.

“Rydym yn agored i weithio gyda phartneriaid eraill yn hyn o beth. Y trydydd dewis sy’n agored i S4C yw cadw’r pencadlys yng Nghaerdydd.”

Dywedodd S4C hefyd nad oedd amserlen wedi’i phenodi ar gyfer penderfyniad ar y pencadlys oherwydd bod y broses ymgynghori yn dal i ddigwydd.

Yn ôl y datganiad: “Mae disgwyl i’r gwaith ar yr astudiaeth gael ei gwblhau ym misoedd cyntaf 2014.”

BBC

Dywedodd y BBC y bydden nhw’n disgwyl i weld beth fydd penderfyniad S4C cyn cynnal “trafodaethau manwl” gydag S4C ar yr opsiynau.

“Nid oes gan y BBC unrhyw gynlluniau i symud i Gaernarfon,” meddai llefarydd BBC Cymru.

“Pe bae S4C yn penderfynu adleoli i safle newydd yng Nghaerfyrddin neu Wynedd yn y dyfodol, byddai’n gwneud synnwyr o safbwynt BBC Cymru Wales i ystyried a yw’n ymarferol i rannu adeilad mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

“Fodd bynnag, hyd nes y bydd S4C yn gwneud penderfyniad cadarn, rydyn ni’n aros yn niwtral. Fyddwn ni ond yn dechrau trafodaethau manwl gydag S4C unwaith y byddan nhw’n glir ynglŷn â’u cynlluniau nhw.”

Pwerdy cyfryngol?

Mae gan nifer o gwmnïau teledu swyddfeydd eisoes yn Noc Fictoria Caernarfon – Cwmni Da, ITV Cymru a Tinopolis. Ac mae cwmnïau Rondo ac Antena yn amlwg iawn yn y dre.

Pe bae’r swyddi yn symud, byddai Caernarfon yn debygol o ddod yn bwerdy cyfryngol.