Mi fydd yr asgellwr Owen Jenkins a’r blaenasgellwr Ellis Jenkins yn gwneud eu ymddangosiadau cyntaf i’r rhanbarth yfory.  Chwech newid sydd i’r tîm a gollodd yn erbyn Munster, mi fydd y bachwr Rhys Williams yn gwneud ei ddechreuad cyntaf o’r tymor a bydd Filo Paulo yn dyhchwelyd i’r ail reng wedi iddo orffen ei ddylewtswydd rhyngwladol gyda Samoa.

O ran yr olwyr, mi fydd y maswr Gareth Davies yn dychwelyd a’r cefnwr Dan Fish wedi gwella o’i anaf i herio yr Eidalwyr yfory.

‘‘Fe wnaethom chwarae’n ddigon da yn erbyn Munster ond yr oeddynt yn llawer yn fwy glinigol yn yr ail hanner.  Rydym yn gweithio’n galed i adeiladau hyder a rhoi cyfleoedd i chwaraewyr ifanc yn y garfan i brofi ei hun ar y cae,’’ meddai Phil Davies, rheolwr y Gleision.

Tîm y Gleision

Olwyr – Dan Fish, Owen Jenkins, Richard Smith, Dafydd Hewitt, Chris Czekaj, Gareth Davies a Lewis Jones.

Blaenwyr – Sam Hobbs (Capten), Rhys Williams, Taufa’ao Filise, James Down, Filo Paulo, Macauley Cook, Ellis Jenkins a Robin Copeland.

Eilyddion – Marc Breeze, Thomas Davies, Benoit Bourrust, Rory Watts-Jones, Luke Hamilton, Thomas Young, Tomos Williams a Simon Humberstone.