Mae golwg360 wedi bod yn rhoi sylw i dîm chwaraeon lleol gwahanol bob wythnos, gan ddod i nabod rhai o’r cymeriadau ac edrych ymlaen at eu gêm ar y penwythnos. Yr wythnos hon pêl-droedwyr CPD Llansannan sydd o dan sylw wrth iddyn nhw baratoi i herio Mochdre Sports.
Proffil y Clwb
Enw: Clwb Pêl-droed Llansannan
Cynghrair: Dyffryn Clwyd a Chonwy (Prif Adran)
Cae: Cae Chwarae – neu’r “Llan Siro gwreiddiol”
Lliwiau: Oren a Du
Rheolwr: Dave Hudson
Chwaraewr-Reolwr: Aled Williams
Capten: Josh Jones
Colli oedd hanes ‘Tîm yr Wythnos’ golwg360 yr wythnos diwethaf, wrth i Glwb Rygbi Crymych gael crasfa yn erbyn Llangennech.
Ond mae’r sylw’n troi nôl at y bêl grom yr wythnos yma, a ‘llawn sêr yw maes Llan Siro’ yn ôl dywediad y clwb, CPD Llansannan o Sir Conwy.
Ym Mhrif Adran Cynghrair Dyffryn Clwyd a Chonwy mae Llansannan yn chwarae ar hyn o bryd, sydd un adran o dan y Welsh Alliance yng ngogledd orllewin Cymru.
Sefydlwyd y clwb nol yn y 1970au, ac maen nhw wedi bod yn chwarae yn y Brif Adran ers 1996.
Llynedd fe orffennon nhw yng nghanol y tabl, a llwyddo hefyd i gipio Cwpan ‘Intermediate’ Gogledd Cymru, ar gyfer timau yng nghynghreiriau Clwyd a Chonwy a Gwynedd sydd o dan y Welsh Alliance.
Dydyn nhw ddim yn gwneud yn rhy ffôl o gwbl y tymor yma chwaith – maen nhw’n ail yn y tabl ar hyn o bryd ar ôl ennill saith o’u naw gêm. Maen nhw saith pwynt y tu ôl i Lanefydd, ond wedi chwarae dwy gêm yn llai.
Ond roedd un o’r colledion yna yn erbyn y tîm ar frig y tabl, gyda Llanefydd yn trechu Llansannan 5-1 ar ddechrau mis Tachwedd.
Mae gwrthwynebwyr Llansannan ar y penwythnos, Mochdre Sports, yng nghanol y tabl ar hyn o bryd gan orwedd yn 6ed allan o’r 11 tîm.
Ac fe fydd Llansannan yn gobeithio cadw’u rhediad da o ganlyniadau i fynd, ar ôl curo’u dwy gêm ddiwethaf yng Nghwpan y Llywydd, y ddwy yn erbyn Hen Golwyn.
Gwella eleni
Dywedodd y chwaraewr-reolwr Aled Williams fod pethau’n siapio’n dda i’r tîm y tymor hwn a’u bod yn parhau i ddatblygu o’r tymor diwethaf.
“Rydan ni’n neud lot gwell eleni, yn ail yn y tabl ar y funud,” meddai. “Hon di’r tymor gorau ers blynyddoedd i’r clwb hyd yn hyn.
“Nes i ddechra hyfforddi’r tîm ar ddechrau tymor dwytha, ar ôl symud adra o Gaerdydd – roedd Dave y rheolwr arall eisoes yma’n barod. ‘Da ni ‘di dod a chwaraewyr newydd i mewn a gwella’r tîm.
“Doedden ni ddim yn neud rhy dda yn y gynghrair o’r blaen, ond fe wnaethon ni guro’r Cwpan ‘Intermediate’ y llynedd oedd yn grêt.
“Rydan ni’n cymryd y tymor yma gêm wrth gêm, ‘da ni ddim isho deud bo’ ni’n anelu am y safle yma neu be’ bynnag. Ond ar ddechrau’r tymor roedden ni’n edrych ella am orffen yn y tri uchaf, a thrio cyrraedd ffeinal un o’r cwpanau eto.”
Cymdeithasol – a Chymraeg
Ond fe bwysleisiodd Aled Williams natur gymdeithasol y clwb hefyd, gan gyfeirio at yr awyrgylch oddi ar y cae pêl-droed hefyd.
“Rydan ni fel unrhyw glwb rili, yn reit gymdeithasol, digon o ‘banter’ rhwng y chwaraewyr a ballu de,” meddai. “Mae pawb yn deall Cymraeg, er nad ydi rhai efallai yn medru’i siarad.
“Rydan ni’n tueddu i neud pethau’n ddwyieithog, ond ar y cyfan ella Cymraeg ydi’r brif iaith – yn sicr ‘da ni’n dîm Cymraeg.”
Ond beth am ddyrchafiad – ydi’r clwb yn edrych i chwarae ar lefel uwch yn y dyfodol?
“Na dwi ddim yn meddwl,” meddai Aled Williams. “Fysa ni’n gallu, mae’n siŵr, ond dydi’r arian a’r noddwyr jyst ddim yno. ‘Da ni’n hapus yn chwara ar y lefel ydan ni ar hyn o bryd – dani’n fwy o ryw dîm C’mon Midffîld!”
Dyma glip fideo’n cyflwyno rhai o chwaraewyr y clwb:
Bydd golwg360 yn rhoi sylw i gêm Llansannan yn erbyn Mochdre Sports dros y penwythnos, ac os hoffech chi i’ch tîm chi gael sylw fel ‘Tîm yr Wythnos’ cofiwch gysylltu â ni.
Carfan Llansannan:
Gôl: Gethin Williams
Amddiffyn: Adam Gage, Steffan Tomos, Alec Lewis, Arwyn Lloyd, Elgan Jones, Josh Jones (c), Euros Lloyd, Gerallt Lyall
Canol cae: Sam Tate, Gwion Evans, Joe Maguire, Sean Williams, Dafydd Williams, Dafydd Owen, Tom Lewis, Aled Williams
Ymosod: Ross Gilbert, Geraint Jones