Leigh Halfpenny
Bydd sawl chwaraewr disglair ar gae Stadiwm y Mileniwm yfory wrth i Gymru herio Awstralia, gan gynnwys nifer a oedd yn rhan o daith y Llewod eleni…
Halfpenny v Folau
Dau gefnwr dawnus yn dod wyneb yn wyneb fydd Leigh Halfpenny ac asgellwr Awstralia Israel Folau. Dyma ddau unigolyn sy’n gallu newid gêm. Hyd yn hyn dim ond un gic allan o 17 mae Halfpenny wedi fethu yn ystod gemau’r Hydref, tra bod Folau yn obeithiol i dirio cais er mwyn torri record y maswr Quade Cooper o sgorio naw cais mewn blwyddyn.
Biggar v Cooper
Mae cystadlu brwd am y cyfle i fod yn faswr Cymru. Dan Biggar fydd wrth y llyw yfory ac fe fydd Warren Gatland yn obeithiol y bydd yn gallu rheoli’r bêl ac ailadrodd ei berfformiad ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Mi fydd maswr Awstralia Quade Cooper yn ennill ei hanner canfed cap yfory a bydd y Cymry yn ymwybodol o’r her sydd o’u blaenau wrth geisio atal Cooper, sydd efo’r gallu i ennill tir neu ymosod o unrhyw le ar y cae rygbi.
Warburton v Hooper
Dyma’r chweched tro i Gapten Cymru Sam Warburton arwain ei wlad yn erbyn Awstralia. Ond hyd yn hyn, nid yw Capten Cymru wedi ennill gêm yn erbyn y Wallabies dros ei wlad.
Ond gyda nifer o’i gydchwaraewyr rhyngwladol, fe wnaeth Warburton flasu buddugoliaeth yn erbyn Awstralia yn ystod yr haf gyda’r Llewod. Yn yr un safle i Awstralia y mae Michael Hooper sydd yn chwaraewr hynod o gystadleuol ac yn ffyrnig yn ardal y dacl wrth geisio difetha cyfleoedd y gwrthwynebwyr ac yr un mor fedrus wrth ddwyn y bêl.