Mae’r cwmni rhentu DVD, Blockbuster, wedi cyhoeddi y bydd 182 yn rhagor o bobl yn colli eu swyddi wrth iddyn nhw gau 30 siop arall.
Mae’r cwmni, aeth i ddwylo’r gweinyddwyr am yr ail waith eleni yn gynharach y mis hwn, wedi methu dod o hyd i brynwr i’r cwmni.
Bydd siopau ym Mangor, Caerdydd, Bae Colwyn a Maesteg yn cau yn rownd ddiweddaraf gan golli 30 o swyddi yma yng Nghymru.
Meddai’r gweinyddwyr mewn datganiad: “Nid oes unrhyw gynigion derbyniol wedi eu derbyn ar gyfer y busnes. O ganlyniad, byddwn yn awr yn ceisio goruchwylio cau’r busnes, fesul cam, tra’n dal i dderbyn unrhyw gynigion ar gyfer y busnes yn ei gyfanrwydd neu’n rhannol.”
Yn gynharach y mis hwn, collodd 452 o bobl eu swyddi wrth i 72 o siopau gau. Meddai’r cwmni eu bod nhw wedi colli busnes o ganlyniad i brisiau rhad archfarchnadoedd yn ogystal â’r cynnydd mewn rhentu ffilmiau a chyfresi teledu ar y we.
Pan aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr am y tro cyntaf ym mis Ionawr, roedd gan Blockbuster 528 o siopau yn y DU yn cyflogi 4,190 o staff.