David Cameron eisiau newid y rheolau
Mae nifer y mewnfudwyr wnaeth symud i’r DU yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mehefin wedi gostwng o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw.

Meddai’r data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod 503,000 o bobl wedi symud i fyw yn y DU yn ystod y flwyddyn o’i gymharu â 517,000 o bobl a gyrhaeddodd yma yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Meddai’r ffigyrau hefyd bod llai wedi gadael y DU yn yr un cyfnod. Fe wnaeth 320,000 o fewnfudwyr adael y DU – 29,000 yn llai na’r flwyddyn flaenorol.

Oherwydd bod llai wedi gadael, mae’n golygu bod y gwahaniaeth rhwng y nifer o bobl sy’n dod i, ac yn gadael, y wlad wedi cynyddu o 167,000 i 182,000.

Daeth 202,000 o bobl i’r DU er mwyn chwilio am waith a daeth cyfanswm o 176,000 o fewnfudwyr i’r DU i astudio meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dyna’r tro cyntaf i waith fod yn rheswm mwy poblogaidd dros symud i’r DU nag astudio ers 2009.

Ddoe, roedd y Prif Weinidog David Cameron wedi amlinellu ei gynlluniau i newid rheolau mewnfudo gan gyfaddef ei fod yn rhannu pryderon rhai o aelodau’r Blaid Geidwadol ynglŷn â llacio’r rheolau am fewnfudwyr o Fwlgaria a Rwmania.

Cafodd Cameron ei gyhuddo gan gomisiynydd cyflogaeth Ewrop Laszlo Andor o “or-ymateb” a rhybuddiodd bod  Prydain mewn perygl o gael ei gweld fel “gwlad gas” yr Undeb Ewropeaidd.