Senedd yr Alban
Mae Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, wedi awgrymu y byddai’n rhaid i’r Alban wneud cais o’r tu allan i ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd petai’n dod yn annibynnol.

Roedd yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg ar y cyd gydag Arlywydd Ffrainc Francois Hollande ar y pryd.

Dywedodd Rajoy y byddai unrhyw “ranbarth” oedd yn gadael aelod-wladwriaeth o’r UE y tu allan i’r gyfundrefn wedyn nes y bydden nhw’n ailymaelodi, gyda chaniatâd pob un o’r 28 aelod arall.

“Fe fyddwn i’n hoffi petai oblygiadau gwahanu yn cael ei gyflwyno’n llawn i Albanwyr. Mae gan ddinasyddion yr hawl i gael y wybodaeth iawn, yn enwedig pan ddaw at gymryd penderfyniadau fel hyn.

“Dwi’n parchu’r penderfyniadau mae Prydain wedi’i wneud, ond dwi’n gwybod yn sicr y byddai rhanbarth sy’n gwahanu o aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd y tu allan i’r UE wedyn, ac fe ddylai Albanwyr a gweddill dinasyddion Ewrop wybod hyn.”

Mae’n bosib fod sylwadau Rajoy yn rhybudd i Gatalwnia, rhanbarth o Sbaen sydd hefyd eisiau cynnal refferendwm ar annibyniaeth.

Mae llywodraeth Catalwnia wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r rhanbarth, gan obeithio cyhoeddi dyddiad a chwestiwn y refferendwm cyn diwedd y flwyddyn, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn gan Rajoy a’i lywodraeth ym Madrid.

Ymateb yr SNP

Mae’r SNP yn dadlau y bydd modd iddynt gynnal trafodaeth gyda’r Undeb Ewropeaidd ar ddod yn aelod annibynnol newydd tra’n parhau yn rhan o’r Undeb.

Yn ôl y Papur Gwyn a gyflwynwyd gan Lywodraeth yr Alban, byddai modd iddynt gynnal trafodaethau ar ddod yn aelod annibynnol o’r UE yn y deunaw mis rhwng pleidleisio dros annibyniaeth ym Medi 2014 a diwrnod annibyniaeth ym Mawrth 2016.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe fyddai’r Alban yn parhau i fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ac felly yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd hefyd.

Mewn ymateb i sylwadau Mariano Rajoy, dywedodd llefarydd ar ran Dirprwy Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon, fod y pryderon yn rai di-sail.

“Rydym yn nodi nad yw Prif Weinidog Sbaen wedi darllen ein cynigion, ond mae Mariano Rajoy wedi awgrymu o’r blaen bod sefyllfa’r Alban a Chatalwnia yn ‘hollol wahanol’,” meddai’r datganiad.

“Byddwn yn cynnal trafodaethau i fod yn aelod annibynnol o’r Undeb Ewropeaidd oddi mewn iddi, yn ystod y cyfnod o ddeunaw mis rhwng y bleidlais Ie a diwrnod annibyniaeth – cyfnod mae cynghorydd cyfreithiol llywodraeth y DU wedi dweud sydd yn ‘realistig’.”

Beirniadu

Cyhuddodd arweinydd Llafur yr Alban, Johann Lamont, Lywodraeth yr Alban o newid ei safbwynt ble roedden nhw’n dweud y byddai aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn “awtomatig”, i un ble byddai “angen cytundeb, gan agor y posibiliad fod rhywun am anghytuno â nhw”.

Dywedodd arweinydd yr ymgyrch Better Together a chyn-ganghellor Llywodraeth y DU, Alistair Darling eu bod bellach yn “gwybod safbwynt llywodraeth Sbaen petaem yn pleidleisio dros annibyniaeth” – er na wnaeth Rajoy fynegi hyn yn benodol yn y gynhadledd i’r wasg.